Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TWF HANESYDDOL Y SYNIAD O GENEDL YNG NGHYMRU PAN osododd Offa ei glawdd mawr o fôr i fôr yn y gorllewin yn yr wythfed ganrif, tynnodd linell rhwng dwy bobl. Newydd oedd un ohonynt a hen y llall. Ond tynnodd ffin hefyd rhwng dwy genedl, a newydd oeddynt hwy ill dwy.1 Hen, yn sicr, oedd y pobloedd a lociodd ef tu mewn i orynysoedd gorllewinol Prydain. Dywedid mai o'r pridd ei hun y tyfodd eu cyn- ctad iu, ac yn wir yr oedd rhyw gyfiawnhad dros iddynt hawlio mesur o w.inaniaetholdeb, hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn. Gan fod eu gwreiddiau yn yr Ucheldir garw a gelyniaethus, byddai eu golygon tua'r gorllewin, i gyfeiriad Môr Iwerddon, a fu drwy'r oesoedd cyn- hanes fel rhyw Fôr y Canoldir bychan yn y gogledd, ac ar y llwybr dros foroedd y de-orllewin, o'r lIe y dôi eu hatgyfnerthiad o ran poblogaeth a diwylliant. Er hynny, ni ddylai'r mesur hwn o annibyniaeth o ran atgyfnerthiad a hinsawdd dywyllu'r gwirionedd anhepgorol nad oedd gan y wlad sy heddiw'n Gymru unrhyw fodolaeth hunanlywodraethcl ar y dechrau. Creadigaeth gelfyddydol, mewn un ystyr, yw pob cenedl. Ni chafodd y genedl Gymreig ei geni. Fe'i gwnaethpwyd. Brythoniaid y gorllewin, yn siarad un o'r ieithoedd Celtaidd, oedd pobl taleithiau diwylliadol y gorynysoedd, â'u perthynas â'u cym- dogion dwyreiniol yn agos. I Gôr y Cewri yr anfonwyd cerrig gleision Preseli ac o blith Belgae y dwyrain y daeth Caradog i arwain gwyr y gor- llewin yn erbyn llengoedd Rhufain ac i ddyfod yn arwr cyntaf y Cymry. Mewn gair, fel Brythoniaid y cafodd y llwythau hyn dri chan mlynedd o brofiad Rhufeinig ac fel etifeddion Prydain Rufeinig yr wynebasant ar yr oesoedd tywyll a welodd ddatblygiad cenhedloedd yr ynys. Y mae haneswyr, yn fy marn i, wedi tanbrisio dylanwad Rhufain arnynt. Eiddil yn wir oedd sylwedd yr etifeddiaeth, ond yr oedd yr argraff ar eu hanymwybod cyfunol yn ddofn a pharhaus. Rhed atgof Rhufain a Phrydain Rufeinig fel llinell trwy eu hanesgerdd a'u chwed- loniaeth gynnar. Fe'i gwelir yng nghwlt Macsen Wledig a Helen, yn rfigurau cawraidd a rhithiol Gwrtheyrn ac Ambrosius Aurelianus rhed fel islif trwy'r Mabinogi. Cymer ffurf newydd yn llenyddiaeth saint Cristnogol y gorllewin, a ddaeth ag awyrgylch meddyliol Gâl gyda hwy i gadw cyffyrddiad gwan gyda Romanitas ar ôl torri ffyrdd masnach y dwyrain gan y paganiaid. Pab oedd Dyfrig a magister 1 Yn yr ysgrif hon, cyflwynaf fraslun o ddatblygiad ymwybyddiaeth Gymreig drwy hanes Cymru. Felly, yr wyfwedi dewis, ymhob cyfnod, y ffactorau mwyafpwysig, i'm tyb i yr wyf wedi cymryd yn ganiataol, fel ffactor llywodraethol, nerth a phresenoldeb Lloegr. Ceir arolygon sylweddol yn R. Coupland, Welsh and Scottish Nationalism (London, 1954) Glanmor Williams, The idea of nationality in Wales,' Cambridge Journal, vii, (1953) R. T. Jenkins, The development of nationalism in Wales,' Sociologicaí Reuiew, xxvii, (1935); Seiliau Hanesyddol Cenedlaetholdeb Cymru, (Caerdydd, 1949).