Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Chwyldro Bwrgeisiol Cymreig, 1889 Mae'r gymuned hanesyddol, y flwyddyn hon, wedi bod yn canolbwyntio ar ddathlu dau-can-mlwyddiant Chwyldro Ffrengig 1789. Fodd bynnag, 'roedd chwyldro arall, ganrif ar ôl yr un yn Ffrainc, llai cataclysmig, llai treisiol, llai ysgytwol, ond yr un mor bell-gyrhaeddol yn ei effaith ar fywyd y genedl. Hwn oedd Chwyldro Cymreig 1889. Awgrymir yn yr erthygl hon fod natur y chwyldro yn debyg i'r un yn Ffrainc, hynny yw, 'roedd yn chwyldro dosbarth, er ei fod yn ei fynegi ei hun yn wahanol ar yr wyneb cymdeithasol. Ar ddiwedd 1888 a dechrau 1889 'roedd amryw o gyfeiriadau yn yr Wasg Gymreig at ganmlwyddiant Chwyldro Ffrengig 1789. Nid cofnodi'r ffaith yn unig yr oeddynt, ond ei defnyddio fel propaganda cyfoes. Yn ôl R. A. Griffith, twrnai Rhyddfrydol ym Mangor, Ni fuasai Ffrainc heddiw yn mwynhau Gwerinlywodraeth, pe na ddigwydd- asai chwyldroad aruthrol yn y wlad honno tua chanrif yn ôl, pan gododd y genedl, deued a ddelai, yn erbyn ei threiswyr Y mae rhyddid o'r diwedd o fewn cyrraedd y Gwyddelod, am eu bod wedi dioddef athrod, carchar a marwolaeth dros eu gwlad. Bydd raid i'r Cymry hefyd aberthu llawer o'u cysuron, os ydynt yn awyddus i'w plant etifeddu byd gwell.1 Datganodd papur gogleddol yn y flwyddyn newydd: Bwriada'r bobl frwydro â'r dosbarth breintiedig. Rhyddid, Cydraddoldeb a Brawdoliaeth: dyma yw arwyddeiriau dynoliaeth rydd.2 Yn yr un mis, rhoddodd Tom Ellis wybod i Gymry Manceinion fod gwreiddiau y Chwyldro Ffrengig yn 'Geltaidd'.3 Beth oedd yn cynnig cyfle i'r Cymry am 'chwyldro' yn 1889? 'Roedd y sefyllfa newydd yn codi o Ddeddf Lywodraeth Leol 1888 a oedd yn dilyn yn naturiol o Ddeddf Diwygiad 1884 fel yr oedd Deddf Corfforaethau Lleol 1835 yn dilyn yn naturiol o Ddeddf Diwygiad 1832. Pwrpas y Mesur Llywodraeth Leol — a gyflwynwyd i'r Senedd gan y Llywodraeth Dorïaidd oedd sefydlu Cynghorau Sir yn Lloegr a Chymru, 'yr hwn, yn ddiamau, sydd yn sicr o greu chwyldro yn rheoleiddiad amgylchiadau y sir.'4 Wrth i'r Mesur fynd trwy'r Senedd, ceisiodd Tom Ellis gyflwyno gwelliant i sefydlu Cyngor Cenedlaethol i Gymru i 'ysgafnhau pwysedd gwaith yn y Tŷ'5 Wrth gwrs, gwrthodwyd hyn gan y llywodraeth Dorïaidd ond yr oedd y Datganolwyr Cymreig yn gweld siawns mawr yn y Mesur i drawsnewid sefyllfa wleidyddol Cymru drwy 'yr anturiaeth newydd mewn gweriniaeth a addawyd drwy'r ddeddf.'6 Gofynnodd golygydd Cymru Fydd i'r Aelodau Seneddol Cymreig am eu hymateb i'r Mesur a chyhoeddwyd hwy yn rhifyn Mehefin 1888.7 'Roedd