Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Fenyw a'r Mabinogi Cefais fy hudo gan y Mabinogi ar ôl misoedd o frwydro yn erbyn hynny ym mlwyddyn gyntaf fy ngradd yn y Brifysgol. Mae iaith swynol y Pedair Cainc a'r cewri o gymeriadau lliwgar yn dwyn rhywun ymaith i fyd annaearol, llawn profion a pheryglon. Nid oes dim 'hapus-am- byth' yn y chwedlau hyn. Mae pob un o'r Pedair Cainc yn gorffen heb orffen, fel rhan mewn cyfres ddiderfyn. Nid oes terfyn go iawn i'r Gainc Olaf, hyd yn oed gadewir y gynulleidfa yn yr awyr, rhwng byd Blodeuwedd (bellach yn dylluan) a byd Lleu. Caiff Blodeuwedd ei herlid a'i churo gan holl adar y byd a Lleu Llaw Gyffes yn teyrnasu'n ddoeth, yn gall ac yn ddiffrwyth (heb etifedd na gwraig) yn Ardudwy. Pam yr oeddwn i mor awyddus i osgoi syrthio mewn cariad â'r Mabinogi? Oherwydd bod y storïau eu hunain yn mynd yn gwbl groes i'm hargyhoeddiadau. Yn gyntaf, maent yn ffrwyth dychymyg aelod neu aelodau o ddosbarth yr uchelwyr yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol. Maent yn mynegi hunangyfiawnder y dosbarth hwnnw ac yn cyfiawnhau bodolaeth y system hierarchaidd a oedd yn bodoli ar y pryd. Yr oedd pobl yn cael eu rhannu i ddosbarthau gwahanol nid annhebyg i'r system caste mewn ardaloedd yn India hyd heddiw. Tri dosbarth oedd yn bodoli yn Nghymru, yn ôl yr hen gyfraith, sef brenin, breyr a bilain (y teulu brenhinol, yr uchelwyr/milwyr a'r taeogion). Ni chyfrifid yr offeiriadaeth yn ddosbarth ar wahân yn Nghymru fel yr oedd yn Lloegr a'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn yr oes ffìwdalaidd. Nid oedd y grefydd Gristnogol, efallai, mor gadarn ei sylfeini yn y gwledydd Celtaidd. Yr ail reswm imi gadw draw oddi wrth y Mabinogi oedd bod y Pedair Cainc yn bropaganda o blaid status quo'r gymdeithas. Mae'r chwedlau felly yn geidwadol iawn eu naws, yn portreadu cymeriadau a wobrwyir am gydymffurfio a'u cosbi am wrthryfela. Nid oedd hyn yn