Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Dadfythu 'Diwygiad Evan Roberts'1 Prin bod yr un o ddigwyddiadau'r ugeinfed ganrif yng Nghymru wedi ennyn ymatebion mor amrywiol ag a wnaeth diwygiad crefyddol 1904-05. I rai, yr oedd yn drobwynt a'u llanwodd â gobaith newydd a mwy o lawenydd bywyd wrth iddynt gael tröedigaeth i'r ffydd Gristnogol. Adlewyrchir eu hagwedd yng ngeiriau Mabel Bickerstaff a gyhoeddodd ei llyfr i blant am y diwygiad dan y teitl 'Something wonderjul happened'.2 Er nad oedd Eifìon Evans yn hollol anfeirniadol am rai o'i agweddau, yr oedd yntau'n telynegu am y diwygiad: 'yn ei ddechreuadau, yr oedd cymaint o bresenoldeb Duw, yn ei estyniad cyn lleied o gynllun dyn; yr oedd ei effeithiau mor amlwg yn oruwchnaturiol, a'i ffrwythau mor eglur yn sanctaidd, na allai neb yn rhesymol wadu ei ffynhonnell ddwyfol.'3 Adleisiodd H. Elvet Lewis (Elfed) hyn pan alwodd y diwygiad yn 'don mwy o lanw nag yn llifeiriant ysgubol, nad oes iddo enw cyffredin, nac esboniad bydol.'4 I eraill, trychineb oedd y diwygiad, 'caniad olaf yr hen draddodiad crefyddol',5 a wnaeth y cymoedd diwydiannol 'bron yn amhosibl eu cyrraedd gan unrhyw ymyrraeth dwyfol pellach,' yn ôl Donald Gee.6 Cyfeiriodd R. Tudur Jones yntau ato braidd yn negyddol: 'Y mae rhywbeth yn alarnadol yn hytrach nag yn greadigol o gwmpas y Diwygiad hwn; nid pwerau ysgytiol yn cychwyn cyfnod newydd yn hanes Cristionogaeth Gymreig ond hen bwerau'n siglo'r genedl ar ddiwedd cyfnod.'7 Nid pegynu yn unig rhwng y negyddol a'r positif a geir chwaith, ond hefyd gwelir difaterwch gyda David Williams a Philip Jenkins ill dau heb sôn o gwbl am y diwygiad yn eu cyfrolau ar hanes y Gymru fodern.8 Ar waethaf y pegynu barn hwn, mae'n wir dweud i gof gwerin aros trwy gydol yr ugeinfed ganrif am y diwygiad gyda threigl amser yn addurno llawer arno, gan lynu at y gobaith y deuai adfywiad arall yn ei dro i chwythu anadl einioes i gorff claf Anghydffurfiaeth. Yn yr ysgrif