Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Undeb y Chwarelwyr a'r Streic Gyffredinol, 1926 Dafydd Roberts [Synopsis at the end] Bu'r drafodaeth ar ddylanwad ac arwyddocad y Streic Gyffredinol yn ffwythlon yn ystod y blynyddoedd a fu. Cyhoeddwyd lleng o lyfrau ac erthyglau dadansoddol; ac yma yng Nghymru, gwelwyd Llafur yn mentro i'r gad, gan baratoi rhifyn arbennig o'r cylchgrawn yn ymdrin a'r maes. Trwy gyfrwng y cylchgrawn ac hefyd trwy gyfrwng gwaith egniol G. A. Phillips,1 sylweddolwyd nad oedd yr ymateb i'r Streic mor unffurf a disgybledig ag y tybiwyd ar un adeg. Noda Phillips y gellir dadansoddi effeithiolrwydd y Streic trwy wrthgyferbynnu, ar y naill law, wahanol ddiwydiannau; ac ar y Haw arall, ddylanwad y Streic mewn gwahanol "ranbarthoedd" (gair Phillips), yng ngwledydd Prydain.2 Drwy wneud hyn, honnir bod cryn amrywiaeth i'w ganfod rhwng un ardal a'r Hall, a bod tueddiad i'r ymlyniad o blaid y Streic wanio braidd mewn ardaloedd nad oedd llawn mor ddiwydiannol eu cefndir. Diddorol, felly, fyddai dadansoddi'r ymateb i'r Streic yng Ngwynedd, sef ardal a chymysgedd o'r amaethyddol a'r diwydiannol. Noda'r Dr. R. Merfyn Jones fod gweithwyr y rheilffordd yng Nghyffordd Llandudno, Bangor a Chaergybi wedi ymateb yn frwd, gan lwyddo i ddiddymu bron iawn bob gwasanaeth. Ynghyd a'r gweithwyr hyn, bu'r argraffwyr yng Nghaernarfon a Bangor yn gefnogol, ac fe lwyddwyd i atal y gweisg wythnosol yn y ddwy dref. Fodd bynnag, dywedir na fu'n rhaid i'r chwarelwyr llechi yng Ngwynedd ymuno a'r Streic, er bod eu Hundeb sef Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru wedi cefnogi'r glowyr yn ariannol. Dylid cofio nad oedd Undeb y Chwarelwyr, erbyn hynny, yn undeb Llafur cwbl annibynnol ac ei bod, ers mis Mai, 1923, yn rhan o Undeb y Gweithwyr Trafnidiaeth a Chyffredinol (y T. & G.W.U.). Mae'n wir bod Undeb y Chwarelwyr yn adran pur annibynnol o'r Undeb mwyaf, ond serch hynny, disgwylid i'r chwarelwyr gydymffurfio a phenderfyniad yr U.G.T.Ch., gan ymuno a'r Streic.4 Ceir cadarnhad o hyn yn y rhestrau, a gyhoeddwyd yn y British Worker, o'r Undebau a orchmynwyd i ymuno a'r Streic. Ar y dydd lau cyntaf, sef Mai 6ed, 1926, rhestrir Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y golofn 'Mwynfeydd a Chwareli'; ac yn ogystal, dywed Owen Parry, yn y llyfryn swyddogol a gyhoeddwyd i groniclo peth o hanes yr Undeb, ei fod wedi ymgymryd a phob oblygiad drwy gydol yr hyn a ddigwyddodd yn 1926.5 Ymddengys, fodd bynnag, nad yw'r honiadau hyn yn wir, ac na fu cefnogaeth ymarferol i'r Streic o du'r Undeb ffaith ryfeddol, ar un olwg. Anodd iawn yw canfod beth ddigwyddodd ar ddiwrnod cyntaf y Streic, Mai 3ydd, 1926. Yn chwarel y Penrhyn, Bethesda, awgrymir bod cefnogaeth llwyr drwy'r diwrnod neu ddau cyntaf, ond yna bod yr undod wedi pylu'n gyflym. Yn sicr, ni fu cefnogaeth di-wyro a phenderfynol o Fai 3ydd hyd at yr lied, yn yr un o'r broydd chwarelyddol. Caewyd ambell chwarel tua diwedd cyfnod y Streic, nid oherwydd gweithredu'r dynion, ond oherwydd prinder wagenni a gyflenwyd gan gwmniau rheilffordd yr L.M.S. a'r G.W.R. Yn sgil