Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y COCH A'R GWYRDD: CYMRU FYDD A'R MUDIAD LLAFUR CYMREIG (1886-96) Dewi Rowland Hughes Dim ond gair i ddweud lie roedd Ellis a mi yn meddwl amdanot neithiwr, mewn cyfarfod Sosialaidd, yn gwrando ar William Morris a Dr. Aveling. Cawsom sgwrs gyda nhw wedyn. Mi gefais Aveling i mewn i gornel yn ei Westy, yn trafod Sosialaeth. Dywedais wrtho fy mod yn Gymro, 'Oh, fe ddown ymlaen yn ardderchog, rydwi'n Wyddel ac mae William acw (sef Morris) yn Gymro.' 1 Fel hyn yr ysgrifennodd O.M. Edwards yn Chwefror 1885 o Goleg Balliol at D.R. Daniel ym Meirion am ei ymweliad ef a Tom Ellis a chyfarfod cangen newydd o'r Gynghrair Sosialaidd yn Rhydychen. Sefydlwyd y Gynghrair hwn yn 1884 gan William Morris, ar 61 iddo ef, Aveling ac Eleanor Marx adael y Ffederasiwn Ddemocrataidd Gymdeithasol (S.D.F). Dengys hyn yn glir ddiddordeb cynnar triwyr Penllyn mewn syniadau Sosialaidd. Pwrpas yr erthygl hon fydd olrhain y cysylltiad rhwng mudiad Cymru Fydd a dyddiau cynnar y mudiad llafur yng Nghymru Sefydlwyd y Gymdeithas Cymru Fydd gyntaf ym Mai 1886 yn ystafelloedd Tom Ellis, yn Palace Chambers, Stryd Pont Westminster Llundain (yn yr un bloc ag y cyfarfyddai Pwyllgor Gwaith yr S.D.F.). 3 Roedd sefydlwyr Cymru Fydd yn fwrgeiswyr ieuanc alltud, oil yn eu dauddegau. Peth hollol briodol oedd sefydlu Cymru Fydd, mudiad a oedd mor ddyledus i La Giovine Italia a Young Ireland, yn llety Tom Ellis, gwr a enwodd Giuseppe Mazzini a Thomas Davis fel 'fy nau athro gwleidyddol'. 4 Roedd y Cymru ieuainc hyn eisiau dechrau mudiad diwylliannol-wleidyddol a fyddai'n trawsnewid Cymru. Daeth siawns Cymru Fydd yn gynharach nag y tybiasent Etholiad Cyffredinol Haf 1886 yn dilyn y Mesur Hunan Reolaeth cyntaf. Detholwyd Ellis i sefyll ym Meirionnydd. Roedd ei ymgyrch yn Gymraeg ac yn ymosodol yn cynnwys y datganiad cyhoeddus cyntaf erioed gan ymgeisydd seneddol am Hunan-Reolaeth i Gymru. 5 Cafodd gefnogaeth gynnes y chwarelwyr niferus a oedd yn ei etholaeth ynghyd a dau lafurwr o'r de Mabon a David Randell, cyfreithiwr ieuanc a oedd i chwarae rhan bwysig yn natblygiad Cymru Fydd a Llafur yn y de. Etholwyd Ellis ar 14 Gorffennaf Dydd Bastille Meirionnydd buddugoliaeth hanesyddol iddo fel Aelod Seneddol cyntaf y mudiad newydd. O dan arweiniad gweledigaethol Ellis, dechreuodd y mudiad ymledu ar ddiwedd yr wythdegau. Cyhoeddwyd Maniffesto Cymru Fydd yn 1889, yn Llundain.6 Rhennir y ddogfen yn ddwy ran: Amcanion a Dulliau. Prif amcan y Gymdeithas oedd sicrhau Deddfwrfa i Gymru ond, nawr, ychwanegwyd eu bod, yn y cyfamser, am weithio sicrhau a chefnogi pob symudiad i 'leoli' a datganoli Llywodraeth yn y wlad. Yn deillio o'r dadansoddiad uchod, cyhoeddir y bydd y Gymdeithas ym ymdrechu i sefydlu 'oddi mewn ac oddi allan i'r dywysogaeth, gymdeithasau cyffelyb a'u huno i greu trefniant cenedlaethol'. Rhaid mynnu ar bob ymgeisydd seneddol yng Nghymru i addo cefnogi