Y GYMDEITHAS BROFFESIYNOL AR GYFER CYFIEITHWYR CYMRAEG I/O'R SAESNEG

Darlith Goffa Hedley Gibbard

Darlith Goffa Hedley Gibbard yw darlith flynyddol y Gymdeithas.

Sefydlwyd Darlith Goffa Flynyddol Hedley Gibbard ym 2002 fel arwydd o werthfawrogiad o'i waith arloesol a chyfraniad aruthrol Heldey Gibbard i faes cyfieithu yng Nghymru. Fe'i cynhelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ganed Hedley Gibbard ym 1936 ar ffarm Waun Fawr, Llangyndeyrn, cyn i’r teulu symud yn ddiweddarach i dŷ ym Mancffosfelen. Fe’i magwyd ar aelwyd fyrlymus a hapus gydag unarddeg o blant. Roedd yn naturiol alluog gyda meddwl chwim. Nid yw’n syndod iddo ragori mewn Mathemateg nac ychwaith i’w athro Lladin ddweud mai ef oedd ei ddisgybl disgleiriaf erioed. Dyma’r union briodweddau a’i gwnaeth yn gyfieithydd ar y pryd o’r radd flaenaf.

Astudiodd ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg yr Annibynwyr Bala-Bangor ac yno y cyfarfu â Mair, merch y Prifathro Gwilym Bowyer, a ddaeth yn wraig iddo’n ddiweddarach. Ym Môn y dechreuodd ei weinidogaeth ym 1965 a dyna pryd y dechreuwyd galw arno i gyfieithu mewn achosion llys. Gweinidogion oedd y rhan fwyaf o gyfieithwyr y llysoedd bryd hynny a chyfieithu yn olynol a wnaent. Yn 1973 penderfynwyd cyflwyno offer cyfieithu ar y pryd mewn rhai o’r llysoedd ac roedd Hedley ymhlith y cyntaf i arbrofi gyda’r dull hwn o gyfieithu. Roedd yn hoff iawn o gyfeirio at yr achlysur pan gafodd ei wadd i gyfieithu drwy’r offer newydd er mwyn cyflwyno’r dull hwn i gynghorwyr Môn. Er syndod mawr iddo cafodd ei ganmol gan y cynghorydd mwyaf gwrth-Gymreig ond nid heb iddo ychwanegu’n sbeitlyd “but it'll never catch on, old friend".

Ychydig a wyddai hwnnw. Pan gyflwynwyd cyfieithu ar y pryd yng Nghyngor Sir Gwynedd ym 1974 wedi ad-drefnu llywodraeth leol, galwyd ar Hedley i gyfieithu yng Ngwynedd hefyd. Roedd eisoes wedi bod yn cyfieithu i hen Gyngor Sir Gaernarfon. Galwai heibio’r swyddfa gyfieithu yn aml i fynd gyda Mair Hunt i gyfarfod. Byddai'n sefyll yno'n ei gôt Harold Wilson yn llawn afiaith gyda hanesyn am ambell bwysigyn neu wleidydd.

Yn raddol, enillodd aelodau eraill o’r uned gyfieithu yr hyder i fentro cyfieithu ar y pryd eu hunain. Roedd hynny’n gwbl angenrheidiol wrth i’r cynghorwyr ddechrau cyfrannu yn eu mamiaith. O fewn ychydig o flynyddoedd Cymraeg oedd yr iaith a siaredid bennaf mewn cyfarfodydd a golygai hynny gynnydd aruthrol yn y galw am gyfieithu ar y pryd.

Ymhen blynyddoedd daeth Hedley ei hun yn Bennaeth yr Uned Gyfieithu yng Nghyngor Gwynedd. Gweithiai’n ddiarbed gan ymestyn y gwasanaeth y tu hwnt i gyfarfodydd canolog y Cyngor a hefyd thu hwnt i oriau arferol swyddfa. Ystyriai bob galwad i gyfieithu yn gyfle i gryfhau a grymuso’r Gymraeg. Roedd dylanwad polisi iaith Gwynedd yn ymestyn a deuai galw am gyfieithu o bob cwr o Ogledd Cymru. Rhannai Hedley’r gwaith yn gwbl deg gan wneud yr un gyfran o’r gwaith â gweddill y tîm ar ben ei waith fel pennaeth yr uned heb sôn am gyflawni ei waith fel gweinidog. Nid peth anghyffredin oedd iddo fod wedi ymweld â chlaf yn Ysbyty Gwynedd cyn cychwyn ar ddiwrnod o waith yn y Cyngor neu ymwelai yn ystod ei awr ginio.

Is-gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Bu’n Is-gadeirydd Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ar y cyd â Steve Eaves, wrth iddi araf ddatblygu o fod yn fod yn gymdeithas wirfoddol o tua deg a thrigain o aelodau ganol y nawdegau i fod yn gymdeithas gydnabyddedig a fyddai erbyn 2001 yn cyflogi dau swyddog. Roedd yn aelod o Banel Cyfieithu Bwrdd yr Iaith Gymraeg a phwysai ar y swyddogion i gydnabod cyfraniad cyfieithu at gryfhau safle’r Gymraeg. Y diwedd fu iddo gael ei secondio i gynllunio gwasanaeth cyfieithu’r Cynulliad a’i sefydlu. Dyma sut y disgrifiodd y Barwn Wigley ei gyfraniad: “Iddo ef mae’r diolch bod gennym gyfundrefn gyfieithu ar y pryd yn y Cynulliad sy’n llawer gwell nag yn Senedd Ewrop“.

Bu rhannu ei amser rhwng cynnal Adran Gyfieithu Gwynedd a sefydlu a hyfforddi cyfieithwyr ar y pryd y Cynulliad yn gryn draul ar Hedley. Gweithiodd yn ddiarbed ac roedd ei frwdfrydedd yn heintus. Yng nghinio dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn chwarter canrif yng Ngregynog y cawsom ei gwmni yn ein plith am y tro olaf cwta fis cyn ei farwolaeth. Yr oedd yn bur wael bryd hynny ond nid oedd ball ar y bwrlwm o hanesion am droeon trwstan cyfieithu ar y pryd.

"A Rolls Royce of a translator" oedd disgrifiad Frances Lynch yr archeolegydd, ohono wrth iddi ddibynnu ar ei gyfieithu yng nghyfarfodydd Parc Cenedlaethol Eryri. Er na fyddai Hedley am feddu unrhyw Rolls Royce byddai’n falch iawn o deimlo iddo roddi dipyn o sglein ar statws y Gymraeg drwy ei waith diflino a di-gŵyn yn cyfieithu a hybu cyfieithu ledled Cymru benbaladr.

Rhestr o'r darlithoedd a gynhaliwyd yn enw Hedley Gibbard.

Rydym yn ddiolchgar i Megan Hughes Tomos, Prif Weithredwr cynta'r Gymdeithas am y deyrnged hon i Hedley Gibbard.

Ariennir y Gymdeithas yn rhannol gan Lywodraeth Cymru.